1. EachPod

Dydd Mercher y Mabinogi gyda Dafydd Davies Hughes

Author
Michael Harvey
Published
Fri 27 Nov 2020
Episode Link
None

Mae Dafydd wedi bod yn gyfarwydd gyda'r Mabinogi ers yn blentyn. Mae wedi crwydro'r dirwedd a dod i nabod y straeon a'u gweld nhw'n dod yn fyw wrth droedio'r tir a dod i'w nabod nhw 'trwy sodlau eu traed'. 

Mae'n gweld y Mabinogi fel rhan o'n hunaniaeth fel Cymry a'r cymeriadau fel drych i ni'n hunain a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn y byd. Wrth ymweld â'r llefydd mae'r stori yn sôn amdanynt mae bron yn amhosib teimlo mai 'yma ddigwyddodd hi'. Wrth adrodd, rhwng y storïwraig/wr a'r dirwedd a phwy bynnag sydd yn clustfeinio.

Wrth dyfu gyda'r Mabinogi ffeindiodd bod cymeriadau gwahanol y straeon yn atseinio gyda'i fywyd ei hunan mewn ffyrdd gwahanol nes cyrraedd y rhyfelwr Zen Manawydan sydd yn dadwneud hud a lledrith wrth beidio â gweithredu. Y  mae Dafydd yn edmygydd o fersiwn Guto Dafis o hanes Manawydan.  Y mae cyfweliad gyda Guto nes ymlaen yn y gyfres.

I gloi mae Dafydd yn dweud mai cwestiynau yw'r Mabinogi. Pwy oeddem ni, pwy ydyn ni a phwy ydyn ni am fod fel Cymry.

Y mae Dafydd yn gyfarwyddwr Menter y Felin Uchaf ym Mhen Llŷn

Share to: